4th of July Y'all
Ar ôl gwagio'r banc yn Efrog Newydd, doedd geni ddim dewis. Roedd rhaid i “Bangor i” fynd. Roedd yr amseru yn weddol dda gan fod geni gwersi bob dydd o 8am tan 5pm, a dim ond 3 penwythnos yn America. 3 penwythnos! Lle mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi mynd? Er hyn, roedd hin brofiad torcalonnus gwerthu'r bwgi bws. Ond ar y 4 o Orffennaf cefais gynnig nad oeddwn yn medru ei wrthod.
Cefais alwad ffôn i'n deffro o'n drwmgwsg am 11am. Jamie oedd yna, yn fy nghyfarwyddo i godi, nol fy shorts nofio, nol Dewi, a neidio fewn i'r fan, cyn dechrau ar ein taith olaf yn y fan. Taith i faes awyr bach Gallipollis. Roedd ffrind arall i ni wedi bod yn llygadu'r fan o'r dechrau, ac wedi cynnig $1500 i ni amdano, ar ôl i'w Dad edrych drosto. Mae Dad o'n berchen ar awyren 4 sedd o 1966, ac roeddem wedi trefnu cytundeb arbennig gyda nhw. Pres a sbin yn yr awyren. Bargen! Pan oni'n sefyll ar y runway gwag, yn y gwres tanbaid, mae'n rhaid i fi gyfaddef fy mod yn cachu brics! Donni ddim wedi bod ar awyran mor fach yn fy myw! Ond unwaith i ni godi i'r awyr, anghofiais bob ofn. Roedd o'n brofiad anhygoel.
Ar ôl glanio, gwyliais y fan yn diflannu fewn i'r gorwel. Roni'n drist iawn, ond sylweddolais pan mor ffodus oeddwn. Dim ond tua £50 oeddwn wedi colli yn werth y fan, a huna mewn blwyddyn o deithio rownd y wlad. Cefais ddim llawer o amser i grio, gan fod ni gyd wedi neidio fewn i Jeep ein cyfaill a hegli ddi am bwll nofio preifat teulu ein ffrind, i ymlacio yn y dŵr braf o dan warchae’r haul poeth. Llosgais fel Sais yn Sbaen!! Dyma oedd ein paratoad at ddathliad mawr y nos, dathlu rhyddid America o warchae coron Lloegr.
Unwaith eto cefais y fraint o brofi caredigrwydd a chynhesrwydd y bobl, gyda gwahoddiad i fwyta un o brydau bwyd pwysicaf y flwyddyn yn gwmni teulu un o fy ffrindiau. Ar ôl pryd hollol arallfydol cefais wahoddiad i fynd am dro ar Harley Davidson tad fy ffrind. Donni heb fod ar feic modur o'r blaen, felly roedd y cyfle yma yn un rhy dda i'w wrthod, yn enwedig ar feic mor cŵl. Dyna lle oni, heb helmed, yn fy bar o fflip fflops $1, shorts nofio a chrys pêl droed Cymru, yn gafael ar i'r beic gyda phob mymryn o egni a oedd gan fy nwylo chwyslyd. Roni'n teimlo fel roced yn saethu lawr y ffyrdd, yn gwneud 80mya mewn ardal 55mya. Di'n wallt i heb fod yr un peth ers hynny.
I orffen y noson, aethom i gyd lawr i ochr yr afon Ohio i wylio sioe ffyrnig o dan gwyllt. Roni'n teimlo fel fy mod yn Iraq!!!! Eisteddais ar ochr yr afon gyda morgrug yn dringo drosof, pryfaid yn fy nghnoi, ag Americanwyr yn gofyn i mi os oedd ganddom ni dan gwyllt yn Gymru. Wrth esbonio hanes Guto Ffowc, dechreuais feddwl am wbath. Pam ydym ni fel Cymry yn dathlu'r diwrnod yna? Pryd ydym ni, fel cenedl, am gael dathlu ein “4th of July” ni? Dwi'n disgwyl yn eiddgar am y dydd yna.